Yn y Cyfarfod Anarferol a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2025, pleidleisiodd Cyngor Tref Ffestiniog o blaid hedfan baner Palesteina o bolyn canolog y dref.
Derbyniodd y Cyngor y cynnig, sef:
“Mynegi pryder dwys ynghylch yr argyfwng dyngarol parhaus yn Gaza a’r Lan Orllewinol, a’r colledion trychinebus o fywyd sifil ar bob ochr;
Galw am gadoediad uniongyrchol a pharhaol ym Mhalesteina ac Israel, yn unol ag apeliadau rhyngwladol am heddwch;
Sefyll mewn undod â phobl Palesteina a chydnabod eu hawl i ddiogelwch, urddas ac hunan-benderfyniad;
Galw ar Lywodraeth y DU i atal ar unwaith werthu neu drosglwyddo arfau a chyfarpar milwrol i Israel;”
Penderfynu hedfan baner Palesteina yng nghanol y dref fel arwydd symbolaidd o gefnogaeth dros heddwch, cyfiawnder a dynoliaeth.
Mae penderfyniad y Cyngor yn weithred symbolaidd o undod, gyda’r bwriad o fynegi pryder dwys ynghylch yr argyfwng dyngarol parhaus yn Gaza a’r Lan Orllewinol, galw am gadoediad ar unwaith ac am byth ym Mhalesteina ac Israel, a sefyll gyda’r rhai sy’n galw am heddwch, cyfiawnder a dynoliaeth.
Bydd y faner yn aros i’w gweld yng nghanol y dref fel arwydd gweledol o safbwynt y Cyngor, ac fel galwad am weithredu brys gan y gymuned ryngwladol i ddiogelu bywydau sifil a chynnal hawliau dynol.