SEDDAU GWAG AR GYNGOR TREF FFESTINIOG
Mae 2 sedd wag achlysurol ar hyn o bryd ar Gyngor Tref Ffestiniog yn y wardiau canlynol:
- Bowydd a Rhiw
- Diffwys a Maenofferen
Os hoffai etholwyr yn y wardiau hyn ofyn am etholiad i lenwi’r seddi gwag, rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig gyda llofnodion 10 etholwr o’r ward berthnasol at:
Swyddog Canlyniadau
Cyngor Gwynedd
Swyddfa’r Cyngor
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
🕛 Deadline: 12 noon, Tuesday 21 April 2026
Os na dderbynnir cais am etholiad erbyn y dyddiad hwnnw, bydd y seddi’n cael eu llenwi gan y Cyngor Tref drwy gyfethol.
