Ymgynghoriad Cyhoeddus Dyfodol Safle’r Hen Barc Sgrefrio

Mae Cyngor Tref Ffestiniog ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer datblygu safle’r hen barc sglefrio yn y dyfodol. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad, hoffai’r Cyngor glywed barn y gymuned.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar ddefnyddiau posibl ar gyfer y safle, gan gynnwys opsiynau sydd wedi cael eu trafod gan y Cyngor.

📝 Gellir cwblhau’r holiadur ar-lein drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyngor Tref Ffestiniog

Mae copïau papur o’r holiadur ar gael ar hyn o bryd yn y lleoliadau canlynol:

📍 Caffi Antur

📍 Londis

📍 Morrisons

📍 Co-op

📍 Deniro’s

📍 Canolfan Gymdeithasol

Gellir llenwi’r ffurflenni a’u gadael gyda staff yn y lleoliadau hyn, a byddant yn cael eu casglu gan y Cyngor yn nes ymlaen.

Fel arall, gallwch alw heibio Swyddfa’r Cyngor Tref i gasglu copi a’i ddychwelyd yn uniongyrchol i ni.

Mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu’r Cyngor wrth ystyried dyfodol y safle.

Diolch am gymryd rhan